Ble Cei Di Ddod i Lawr
Anna Georgina, Dafydd Dabson
Mae Cartref lle mae're galon
Dwi'n gorfod byw fan hyn
Pell yw fy nghalon o'ma
Dan glwm o rwymau tynn.
Cartref, yr olewyddlan
Yr ardd a'r bwthyn clyd
Y teulu annwyl, agos
Y pentre'n gyfanfyd.
Arhosa nghalon yno
Heb dychwel nol ar gael
Deng mlynedd nawr ar drigain
Ers diarddeliad gwael.
Dos, galon, hedfan
Uwchben y muriau mawr
Dros oesoedd o wahaniad
Ble cei di ddod i lawr?
Yr unig rhai sy'n cofio,
Eu hun, ein pentre ni
'Mond plant yr adeg yno
Nawr taid a nain i mi.
Mewn lle dros dro gwersyllu,
Yn byw o ddydd i ddydd,
A'r gobaith ein calonnau
Mynd adre - eiddil ffydd!
Dos, galon, hedfan
Uwchben y muriau mawr
Dros oesoedd o wahaniad
Ble cei di ddod i lawr?
Dos, galon, hedfan
A'r gwynt yn chwythu'n rhydd.
O galon fach hiraethus
Yn rhydd ar esgyll ffydd