Caredig
Os ydi'r byd yn deu'
'Tha ti am be i neud
A bod eiddigedd du
Yn cnoi dy feddwl di
Jyst stop
Mae na
Ateb syml a
Dio'm yn anodd a
Mond 'ti drio
Fydd bob dim yn glir...
Jyst bydd yn garedig
A bydd yn hael,
Ysbrydoledig,
I bawb gael teimlo'r haul ,
Rho beth o dy huan
I'r byd
Just gwna fo,
A bydd yn garedig.
Ma' gair yn y lle iawn
A gwên o galon lawn
A llaw i estyn draw
Drwy'r nos a bwrw glaw
Gwerth mwy na'r byd
I gyd
Sdim
angen arian mawr
I gadw cydwybod lawr,
Dio'm yn anodd
Jest cofleidia hyn.