Rhagluniaeth Ysgafn

O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn

A phan ddaw'r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i'r achosion da,
Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo,
Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino, Ar fy mhwdr areithio,
Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef,
Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus,
Fy nghabledd o flaen y groes,
Yr hunan-dosturi, Y cwrw a'r miri,
Fy ofer-ymffrostio, Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth.

A phan ddaw'r cyfweliad, Erfynaf am fynediad,
Drwy lidiart y nefoedd I'r cyfoeth ar yr ochr draw.
A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau,
Fy holl rinweddau, Sy'n rhifo ar un llaw.
Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am:

Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw

Wissenswertes über das Lied Rhagluniaeth Ysgafn von Gruff Rhys

Wann wurde das Lied “Rhagluniaeth Ysgafn” von Gruff Rhys veröffentlicht?
Das Lied Rhagluniaeth Ysgafn wurde im Jahr 2005, auf dem Album “Yr Atal Genhedlaeth” veröffentlicht.

Beliebteste Lieder von Gruff Rhys

Andere Künstler von Pop rock