Tra Bo'r Gwybed

Rhydian Davies, Rhiannon Bryan

Welais di'n rhedeg
Meddyliest y byddet yn saff
Gwelais yr oll
Y darlun wedi'w droi
Ddaw dim
Ddaw dim o hyn

A nawr ti'n syrthio
a'th enw yn pylu i'r gwynt
Unfaith eto, y gwybed yn sefyll draw
Ddaw dim
Ddaw dim o hyn

Annwyl Khalil
Mi geisiais dy dynnu o'r nos
Ond breichau gwag
sy'n aros ar fy nghôf

Gymera'i di
Down â'r llygaid yn fyw
Rwy'n syrthio nawr ond does dim newid

Fe daflais y ceiniogau i gyd
Taflais yn bell, y dymuniad ola i mi
Y bodiau bach yn adfywio'r enaid.
Mae'r bodiau hyn yn gwaredu y gelyn
a phan ddaw y bore daw dinistr y wawr

Gymerai di
Down â'r llygaid yn fyw
Rwyn syrthio nawr ond does dim newid

A oes ffurf yn y gannwyll
Wedi' hollti yn dri
Dy ddagrau dwfn yn ymgasglu a chasglu a
dy wyneb trist yma'n rhewi yn ein cysgod ni

Fe gollais pob ffarwel
Fe gollais
fedra'i ddim gorwedd
mae'r oll o 'nghwmpas
Fe gollais pob ffarwel
Fe gollais
fedra'i ddim gorwedd
Y seiren dawel.

Annwyl Khalil
Mi geisiais dy dynnu o'r nos
Unwaith eto ddaw y gwybed i wylio'r oll

Wissenswertes über das Lied Tra Bo'r Gwybed von The Joy Formidable

Wer hat das Lied “Tra Bo'r Gwybed” von The Joy Formidable komponiert?
Das Lied “Tra Bo'r Gwybed” von The Joy Formidable wurde von Rhydian Davies, Rhiannon Bryan komponiert.

Beliebteste Lieder von The Joy Formidable

Andere Künstler von Indie rock